Cynulliad Cenedlaethol Cymru |
National Assembly for Wales |
Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau |
Economy, Infrastructure and Skills Committee |
Blaenoriaethau ar gyfer Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau |
Priorities for the Economy, Infrastructure and Skills Committee |
EIS 47 Mentrau Iaith Cymru |
EIS 47 Mentrau Iaith Cymru |
Mentrau Iaith Cymru yw’r mudiad cenedlaethol sy’n cefnogi’r rhwydwaith o 23 Menter Iaith leol ar draws Cymru sy’n hyrwyddo, hybu a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg. Diolch am y cyfle i rannu gwybodaeth gyda chi ynglŷn â’n blaenoriaethau ar gyfer rhaglen waith y pwyllgor. Rydym yn amlinellu nifer o feysydd isod rydym ni’n teimlo sy’n briodol i’r pwyllgor eu hystyried eleni.
Adroddiadau perthnasol:
Wrth gynllunio rhaglen waith y pwyllgor dylech ystyried nifer o adroddiadau perthnasol i’r maes iaith ac economi sydd wedi eu cyhoeddi yn y ddwy flynedd diwethaf, sef:
Ceir yn y tri adroddiad hwn argymhellion clir mewn perthynas iaith ac economi, a chasgliadau a wnaed yn sgil gwaith ymchwil ac ymgynghori ag ystod eang o randdeiliaid. Credwn y byddai’n addas i’r pwyllgor ystyried ymateb y Llywodraeth i’r adroddiadau hyn, a hefyd unrhyw weithgareddau sydd ar y gweill, gan ystyried a oes mwy gall y Llywodraeth ei wneud er mwyn ymateb i’r argymhellion.
Marchnad Lafur Cyfrwng Cymraeg
Dros y ddwy flynedd diwethaf mae Mentrau Iaith Cymru wedi datblygu’r achos i greu cynllun Marchnad Lafur Cyfrwng Cymraeg. Mae gan siaradwyr Cymraeg a chymunedau Cymraeg anghenion unigryw o ran hyfforddiant a’r gweithle ac mae angen cynllunio’n ofalus ar eu cyfer er mwyn diwallu’r anghenion hyn. Atodir papur sy’n amlinellu gweledigaeth y cynllun.
Yn gysylltiedig i’r maes hwn, fe fyddwn ni yn croesawu:
Y cyfle i drafod egwyddorion y cynllun ac elfennau ohono all cynnig atebion i gryfhau’r iaith Gymraeg a’r economi gyda’i gilydd
Ymchwil ac asesiad o werth economaidd yr iaith Gymraeg:
Wrth ystyried gwaith ymchwil a gyhoeddwyd yn ddiweddar yng Ngwlad y Basg sydd yn dangos bod yr iaith Fasgeg gwerth 4.2% o GDP economi y gymuned ymreolaethol teimlwn y byddai’n briodol ac amserol i gynnal gwaith ymchwil tebyg i’n sefyllfa unigryw ni yma yng Nghymru. Rydym yn bwriadu awgrymu wrth y Llywodraeth bod hyn yn faes dylai cael ei flaenoriaethu ac mae’n faes gall y Pwyllgor hefyd ystyried fel rhan o’i waith, er mwyn cyfrannu at gasglu tystiolaeth gadarn ynglŷn â chyfraniad y Gymraeg i’n heconomi.
Mawr obeithiwn y gallwch ystyried ein hymateb, ac mae pob croeso ichi gysylltu â ni am wybodaeth bellach.
Emily Cole
Cydlynydd Cenedlaethol
Mentrau Iaith Cymru
01443 493715
07977892023